| Croeso |
|
Darparu cartref safon uchel, cefnogaeth a datrysiadau adfywio i bobl a chymunedau Rhondda Cynon Taf drwy annog amgylchedd diogel a blaengar lle caiff cyfraniad staff a thenantiaid ei werthfawrogi a’i barchu” Bu Cymdeithas Tai Rhondda yn darparu cartrefi yn yr ardal am 30 mlynedd yn awr ac maent wedi buddsoddi dros £60 miliwn mewn tai yn ardal Rhondda Cynon Taf yn ystod y cyfnod hwnnw – rydym yn parhau i fuddsoddi bron £3 miliwn y flwyddyn.
Mae Cymdeithas Tai Rhondda yn Gymdeithas sy’n seiliedig yn y gymuned ac sydd â’i ffocws ar denantiaid. Dim ond yn Rhondda Cynon Taf yr ydym yn gweithio - ac mae hyn yn ein gwneud yn wahanol i’r rhan fwyaf o gymdeithasau tai eraill. Mae cyfran fawr o’n staff yn bobl leol ac mae gennym bolisi i ddefnyddio contractwyr lleol pryd bynnag y bo modd. Mae gennym felly ddiddordeb personol yn llwyddiant yr ardal ac yn y cymunedau y gweithiwn ynddynt. Rhannwyd y Gymdeithas i’r adrannau dilynol - Gwasanaethau Tai, Cynnal a Chadw, Tai â Chymorth, Cyllid & TG, Gwasanaethau Corfforaethol a Datblygu Cymunedol. Rydym hefyd yn cefnogi “CwmNi”, partneriaeth Cymunedau’n Gyntaf yn Nhreherbert. Medrwch ddarllen mwy am rai o’r adrannau hyn yn y ddogfen hon. |


Tudalen Gartref
Croeso i Gymdeithas Tai Rhondda
Pan wnaethom ddechrau 30 mlynedd yn ôl roeddem yn seiliedig mewn tŷ bychan wedi ei addasu yn Tylorstown - yn awr wrth i ni barhau i ehangu a thyfu mae gennym swyddfa bwrpasol yn Stryd Compton, Tonypandy. Mae hyn yn ein galluogi i fod yn hygyrch i’n tenantiaid sy’n byw mewn dros 1400 o anheddau ledled ardaloedd Rhondda a Thaf Elai.



